Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 333(3E) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

–Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau Meini Prawf DAC”),

–Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau Ffioedd DAC”), a

–Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau Ffioedd CGTh”).

Mae’r Rheoliadau Meini Prawf DAC, ymysg pethau eraill, yn pennu’r meini prawf ar gyfer pan fo datblygiad yng Nghymru o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”). Cyfeirir at ddatblygiad o’r fath fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol neu “DAC”.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Meini Prawf DAC er mwyn rhoi statws DAC i osod llinellau trydan uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 cilofolt neu lai ac sy’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 hefyd yn—

–cynyddu’r trothwy DAC sy’n ymwneud ag adeiladu neu estyn gorsafoedd cynhyrchu, ac eithrio gorsafoedd cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, o 50 MW i 350 MW;

–tynnu cyfleusterau storio ynni o’r diffiniad o “gorsaf gynhyrchu”, gyda’r effaith na fydd datblygu cyfleusterau o’r fath yn DAC.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Ffioedd DAC fel bod ffi ar gyfer penderfynu ynghylch cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gosod llinell drydan uwchben y ddaear ond yn daladwy pan fo penderfyniad wedi cael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn hytrach na chan berson a benodwyd at y diben hwnnw.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro anghysondeb yn y Rheoliadau Ffioedd CGTh. Mae ffi yn daladwy i awdurdodau cynllunio lleol mewn cysylltiad â chais tybiedig mewn amgylchiadau pan fyddai’r cais hwnnw, fel arall, wedi cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 62D o Ddeddf 1990.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 333(3E) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

cynllunio gwlad a thref, Cymru

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 62D a 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf([2]) honno ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 333(3E) o’r Ddeddf honno([4]), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 3(1)(aa) (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cyffredinol) mewnosoder—

(ab) gosod llinell drydan uwchben y ddaear;.

(3) Yn rheoliad 4 (gorsafoedd cynhyrchu)—

(a)     ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “50 megawat” rhodder “350 megawat”;

(b)     ym mharagraff (3)—

                            (i)    yn y diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) ar ôl “ond nid yw’n cynnwys gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” mewnosoder “na chyfleuster sy’n cynhyrchu trydan o ynni wedi ei storio”;

                          (ii)    mewnosoder yn y mannau priodol—

“cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp” (“a pumped hydroelectric storage facility”) yw cyfleuster sy’n storio ynni disgyrchol potensial dŵr sydd wedi cael ei bwmpio i lefel uwch er mwyn defnyddio ei gwymp yn ôl i’r lefel is i gynhyrchu trydan;;

ystyr “ynni wedi ei storio” (“stored energy”) yw ynni—

(a)   a drawsnewidiwyd o drydan; a

(b)   sy’n cael ei storio at ddiben ei aildrawsnewid yn drydan yn y dyfodol,

ond nid yw’n cynnwys ynni wedi ei storio mewn cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp;.

(4) Ar ôl rheoliad 4A (gorsafoedd cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir) mewnosoder—

Llinellau Trydan

4B.—(1) Nid yw gosod llinell drydan uwchben y ddaear ond o fewn rheoliad 3(1)(ab)—

(a)   os oes gan y llinell o dan sylw foltedd enwol o 132 cilofolt neu lai; a

(b)   os yw’r llinell o dan sylw yn gysylltiedig ag adeiladu neu estyn gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru sydd wedi cael caniatâd cynllunio neu sydd wedi cael cydsyniad ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.

(2) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru;

ystyr “gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru” (“devolved Welsh generation station”) yw gorsaf gynhyrchu—

(a)   sydd yng Nghymru ac—

                       (i)  sy’n cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt, neu

                      (ii)  sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai; neu

(b) sydd yn nyfroedd Cymru ac sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai;

ystyr “llinell drydan” (“electric line”) yw unrhyw linell sy’n cael ei ddefnyddio i ddargludo trydan at unrhyw ddiben ac sy’n cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

(a)   unrhyw gynhaliad ar gyfer unrhyw linell o’r fath, hynny yw, unrhyw strwythur, polyn neu wrthrych arall y mae unrhyw linell o’r fath yn cael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono neu y gall unrhyw linell o’r fath gael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono;

(b)   unrhyw gyfarpar sy’n gysylltiedig ag unrhyw linell o’r fath at ddiben dargludo trydan; ac

(c)   unrhyw wifren, cebl, tiwb, pibell neu wrthrych tebyg arall (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) sy’n amgylchynu neu sy’n cynnal unrhyw linell o’r fath, neu sydd wedi ei hamgylchynu neu ei amgylchu neu ei chynnal neu ei gynnal ganddi, neu wedi ei gosod neu ei osod yn agos ati, neu wedi ei chynnal neu ei gynnal, ei chario neu ei gario neu ei chrogi neu ei grogi mewn cysylltiad ag unrhyw linell o’r fath; ac

mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([6]).”

Diwygiadau i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6(2)(e) ar ôl “y ffi” mewnosoder “(os oes un)”.

(3) Yn rheoliad 12 ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A),” ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(1A) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gais am ddatblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 ac eithrio yn ystod unrhyw gyfnod y mae’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer ynddo gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan baragraff 9 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990([8]).

Diwygiadau i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

4.(1)(1) Mae rheoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015([9]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraffau (3) a (4) rhodder—

(3) Nid yw ffi ond yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig os ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio—

(a)   y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol; neu

(b)   y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i Weinidogion Cymru.

(4) Swm y ffi yw—

(a)   pan fyddai cais wedi ei wneud i’r awdurdod perthnasol, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais; neu

(b)   pan fyddai cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â’r cais pe bai’r cais wedi ei wneud i’r awdurdod a phe bai’r datblygiad wedi dod o fewn paragraff 9(b) o Ran 2 o Atodlen 1.

(3) Ym mharagraff (9) ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “neu” ac ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

neu

(c)   cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i Weinidogion Cymru y ffi sy’n daladwy pan wneir y cais hwnnw,.

 

 

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru



([1])            1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Amnewidiwyd adran 303 gan adran 199 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 27 a 55 o Ddeddf 2015, a pharagraffau 4(1) a 5 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([2])            Diwygiwyd adran 333 gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraffau 1 a 14 o Atodlen 6 iddi, a chan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 333 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])            Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

([4])           Mewnosodwyd adran 333(3E) gan adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 3 o Atodlen 7 iddi.

([5])            O.S. 2016/53 (Cy. 23), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/358 (Cy. 111).

([6])            2006 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh zone” gan adran 43 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).

([7])            O.S. 2016/57 (Cy. 27).

([8])           Mewnosodwyd Atodlen 4D gan adran 26(1) o Ddeddf 2015 a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi.

([9])           O.S. 2015/1522 (Cy. 179). Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 2017/528 (Cy. 111).